Ysgolion

Comic i Ysgolion Cymru

Defnyddiwch Mellten yn y dosbarth fel sbardun - i ddarllen, creu, arlunio, sgwennu, joio!

Pam Mellten?

Erbyn hyn, mae comics yn cael eu cydnabod am eu gwerth addysgiadol ac am y modd mae nhw'n rhoi hwb i lythrennedd plant, yn enwedig plant sydd ddim yn hoff o ddarllen llyfrau.

Mae hyn yn bwysig eithriadol yn achos plant sy'n darllen yn eu hail iaith, fel sy'n wir am gynifer o blant ysgolion Cymru.

Ein bwriad gyda Mellten yw cynnig straeon difyr, diddorol ac aeddfed i blant, gyda lluniau sydd yn cynorthwyo eu dealltwriaeth o'r straeon heb i'r iaith eu trechu.

Archebu

I archebu rifynnau 1-15 o Mellten, ewch i wefan y Lolfa

Fideos

Dros y cyfnod clo, aeth Huw Aaron, golygydd Comic Mellten, ati i greu cyfres o fideos i'ch dysgu CHI sut i greu eich comics a chartwnau eich hun. Mae'r fideos i gyd ar Sianel Huw Aaron



Ymweliadau

Os hoffech ddiwrnod ysbrydoledig, llawn hwyl i'ch dosbarth neu eich ysgol, beth am drefnu i un o artistiaid Mellten gymryd yr awenau? Trwy gyfuniad o weithdai, sesiynau rhannu straeon, comedi, gemau, cystadlaethau a llawer iawn o ddwdlo, byddwn yn creu comics a chymeriadau gyda'r plant gan hybu eu sgiliau cyfathrebu yn y broses.


Cysylltwch â huw@huwaaron.com am ragor o fanylion.

Adnoddau

Am ragflas o ymweliadau Mellten, dyma gasgliad o adnoddau llawn hwyl i'w lawrlwytho er mwyn eich cynorthwyo i ddechrau creu comics.

O achos problemau technegol (a diogi!), mae yna bentwr ENFAWR o adnoddau ychwanegol dw i wedi eu chreu nad sydd yma - ond sydd ar gael i'w lawrlwytho am ddim yn fy Google Drive - YMA!

Sut mae pysgod yn teithio i'r ysgol?

Ar yr octo-bws!