Rali'r Gofod 4002

Ras i'r sêr... dros Gymru Newydd!

Y flwyddyn 4002. Mae Iola'n breuddwydio am ennill Cystadleuaeth Rali'r Gofod ond mae'n styc ar blaned Cymru Newydd heb na chriw na llong ofod. Mae pethau mawr ar fin newid...

Cymeriadau

Iola

Peilot ifanc sydd eisiau rhoi Cymru Newydd ar fap rasio'r gofod. Dewr, caled a chanddi feddwl chwim. Mae'n gas ganddi golli mewn unrhyw gamp.

Mew

Cath-greadur rhyfedd, sydd ond yn dweud 'Mew'. Byw mewn ogof yn yr anialwch ond gyda dawn anhygoel gyda thechnoleg. Sut ac ym mhle dysgodd y sgiliau yma?

Ping

Robot rhyfel - peiriant difrod, hynod beryglus oedd Ping, cyn iddo gael ei ailgylchu a'i droi mewn i bopty bwyd parod. Wedi colli'r lasers a'r bomiau, ond yr un mor grac ag erioed.