Gwil Garw

Casglwr Angenfilod

Arwr o Oes cyn hanes ydi Gwil Garw sy'n datrys problemau unrhywun sy'n fodlon talu - yn enwedig problemau sy'n cynnwys angenfilod a digon o ymladd!

Ond mae Gwil ar fin cychwyn ar antur enfawr fydd yn newid popeth...

Cymeriadau

Gwil

Rhyfelwr dewr sydd ddim yn ofni unrhywbeth.. Sŵ Hemi ydi'r peth agosaf at fod yn gartref iddo, ond mae'n hapusach ar ei ben ei hun wrth hela rhywbeth mawr, ffyrnig. Tydi o ddim yn rhy hoff o bobl eraill, mae'n well ganddo gwmni anghenfil neu ddau.

Hemi

Perchennog yr Bwystfilariwm - casgliad o rai o'r creaduriaid rhyfedda wnaeth gerdded yr ynys hon. Brawd i bennaeth y llwyth. Dyn mawr, hapus a chryf, ond nid y dyn busnes gorau.

Mali

Morwyn i Heini. Merch dawel ac ychydig yn drwsgl. Mae'n fwy debygol o ollwng plât o fwyd ar y llawr na'i osod ar y bwrdd. Hoff o godi pwysau a thaflu cerrig mawr. Efallai ei bod hi yn y swydd anghywir. A beth yn union ydi ei theimladau tuag at Gwil, tybed?

Hael ap Heilyn

Pennaeth y llwyth. Cryf, doeth ac yn hoff o hela. Mae'n rheoli cant o bentrefi trwy nerth ei griw o ryfelwyr ddewr, Bechgyn y Wawr.

??????

???????????