Amdano

Eisiau Gwybod Mwy am Mellten?

Comic i blant Cymru - yn llawn o gymeriadadau gwreiddiol, storiau cyffrous, jôcs dwl, cystadlaeuthau, posau a mwy!

Beth yw Mellten?

Comic llawn lliw, wedi ei olygu gan y cartwnydd Huw Aaron, ac yn cynwys cyfraniadau gan amryw o artistiaid, cartwnwyr ac awduron. Mae yna gyfuniad o storiau doniol, arswydus a chyffrous gyda rhai stribedi yn fyr ac eraill yn parhau o rifyn i rifyn.

Yn ogystal a'r storiau, mae yna bosau, jôcs, cystadlaethau, a chyngor ar sut i greu comics a chartwnau eich hun.

Bydd Mellten hefyd yn trefnu nifer o ddigwyddiadau byw, gan ddechrau yn Eisteddfod yr Urdd Sir Fflint, ac ymweliadau ysgolion.

Ble Mae Mellten ar werth?

Lansiwyd Mellten ar y 30fed o Fai, 2016, ac mi gafodd 15 rhifyn ei gyhoeddi. Ers Medi 2021, mae Mellten wedi cyfuno gyda chylchgrawn CIP, cyhoeddwyd gan yr Urdd, sydd yn cael ei gyhoeddi yn ddigidol AM DDIM pob deufis. Ewch i WEFAN YR URDD i danysgrifio.

Sut mae pysgod yn teithio i'r ysgol?

Ar yr octo-bws!